Criw o bobl leol ac nid mor lleol â hynny. Wel, o leiaf, mae gennym i gyd gysylltiad â Tafarn Sinc. A gweledigaeth unplyg ein bod am ei weld ar agor ac yn ffynnu. Rydym yn galw ein hunain yn gyfarwyddwyr Cymdeithas Tafarn Sinc sydd wedi ei chofrestru fel elusen ac sy’n cael ei hystyried yn gymdeithas er budd cymunedol.
Rydym yn wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n meddu ar sgiliau amrywiol ac yn rhoi o’n hamser yn wirfoddol i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r dafarn unigryw.
Rydym yn ymwybodol bod gennym ddyletswydd i’n holl gyfranddalwyr a benthycwyr i drin eu harian yn ddoeth er lles masnachol ac er lles cymunedol y fro.
Cychwynnodd ein stori ryfeddol yn ystod haf 2017 pan sylweddolwyd nad oedd neb am brynu’r dafarn a phawb yn credu y byddai’n drueni pe bai’r drysau’n cau am byth. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus o dan nawdd PLANED a Clebran, y papur bro lleol.
Penderfyniad unfrydol neuadd orlawn ym Maenclochog oedd y dylid mynd ati yn enw’r gymuned i godi’r arian oedd ei angen i brynu’r dafarn. Gwnaed hynny o fewn pedwar mis. Cyflogwyd rheolwr a chogydd a staff gweini.
Mae’r stori gyffrous wedi’i chofnodi isod.
Mae gyda ni le i ddiolch i’r actor ffilm a llwyfan nodedig, Rhys Ifans, a anwyd yn Hwlffordd, am ein llwyddiant yn prynu Tafarn Sinc yn enw’r gymuned. Roedd ei gefnogaeth i’r ymgyrch gwerthu cyfranddaliadau a’r cyhoeddusrwydd a ddeilliodd o hynny yn allweddol. Recordiodd fideo ar ein cyfer pan oedd yn ffilmio yn Berlin.
Yr un modd mynegodd wynebau adnabyddus eraill megis Huw Edwards, Jamie Owen, Dewi Pws, Dafydd Hywel a Mari Grug eu cefnogaeth. A’r hyn a oedd yn rhyfeddol oedd fod cyfranddaliadau wedi’u prynu gan bobl o bob rhan o’r byd. Dyna chi Doug Hansen a ddaeth drosodd yr holl ffordd o Tecsas i weld beth yn gwmws roedd e wedi’i brynu gyda’i £200. Yr un modd Mark a Jan Bigland-Pritchard o Saskatchewan. Fe ddaethon nhw drosodd gan fwriadu aros am wythnos yn y fro ond fe arhoson nhw am dair wythnos. Fe glywson nhw am hynt Tafarn Sinc ar orsaf radio lleol yng Nghanada.
Roedd yna gyffro yn y fro wedi i gyfarfod cyhoeddus orlawn yn Neuadd Maenclochog ar Orffennaf 12 2017 benderfynu yn unfrydol i fwrw ati i geisio prynu Tafarn Sinc yn enw’r gymuned. Codwyd dros £7,000 y noson honno. Ymhlith y cyntaf i brynu cyfranddaliadau oedd yr actor, Dafydd Hywel, sy’n ymwelydd cyson â’r pentref, a’i gyfaill, Ryan John, sydd wedi bod yn taenu a sgubo’r blawd llif ar hyd lloriau’r dafarn ers chwarter canrif.
Gwerthwyd cyfranddaliadau am £200 yr un gan ganiatáu i bob unigolyn brynu hyd at £20,000 mewn cyfranddaliadau. Cyflwynwyd cynllun benthyg arian Cyfoed i Gyfoed yn caniatáu buddsoddi symiau uwch. Codwyd oddeutu £400,000. Prynwyd yr eiddo erbyn diwedd mis Tachwedd gydag ychydig o gyfalaf dros ben ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Mae cyfranddaliadau yn dal ar gael i'w prynu er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith diweddaru a chynnal a chadw.
O fewn cwta bedwar mis o fasnachu cawsom ein henwebu ar gyfer gwobr Categori Torri Trwodd y Gymdeithas Gydweithredol. Roedd hynny ynddo’i hun yn anrhydedd.
Rhaid diolch i Brian Llewelyn a’i deulu am osod seiliau'r gyrchfan unigryw a’n braint ni fel Cymdeithas Tafarn Sinc yw ei ddatblygu ymhellach fel tafarn, lle bwyta a chanolfan Cymreictod i’r fro.
Eisoes mae cymdeithas y pentref yn cynnal achlysuron yn gyson, mae dysgwyr yn canfod eu ffordd yma a chyfeillion yn cyfarfod i rannu stori. Mae’n siŵr y gwelwn Rhys Ifans yn dod heibio yn ei dro fel y gwnâi yn y gorffennol.
Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch, Maenclochog, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7QU
Ebost: admin@cymdeithastafarnsinc.cymru
Ffon: 01437 532214