Bernir erbyn hyn mae Rhos-y-bwlch oedd enw gwreiddiol Rosebush ond iddo gael ei Seisnigeiddio. Mae’n gwneud synnwyr fel disgrifiad perffaith o’r dirwedd. Ceir tirnodau eraill gerllaw sy’n arddel yr enwau Bwlchgwynt a Thafarn Bwlch.
Prynodd gŵr o Gaint, Edward Cropper y cwarre lleol yn y 1870au ac aeth ati i sefydlu sba gwyliau. Gwelir poster i’r perwyl hwnnw yn y dafarn.
Er mwyn cludo’r ymwelwyr i’r fro a chludo llechi’r chwareli o’r fro sefydlodd Cropper rheilffordd. Cododd y Precelly Hotel yn 1876 wedi’i wneud o haearn galfanedig. Ond profodd profion labordy nad oedd unrhyw rinweddau iachusol yn perthyn i ddŵr y ffynhonau.
O’r herwydd ni wnaeth y sba gydio ac oherwydd ansawdd gwael y llechi cau fu hanes y chwareli erbyn 1905. Wrth i ddulliau eraill o gludiant ddatblygu daeth rhawd y trên teithwyr i Abergwaun i ben yn 1937 a’r trên nwyddau yn 1949.
Deil ffermio defaid yn brif weithgarwch yr ucheldir. Rhwystrwyd ymgais i droi’r llethrau’n faes ymarfer milwrol ar ddiwedd y 1940au o ganlyniad i ymgyrch ddygn yn cael ei harwain gan weinidogion yr efengyl ac ysgolfeistri.
Heddiw twristiaeth sy’n rhoi hwb i’r economi ac mae’r maes carafanau gerllaw, gyda’i lynnoedd artiffisial o gyfnod Cropper, yn ychwanegu at y croeso a roddir yn y Tafarn Sinc.
Mae yna ‘fugeiliaid newydd’ wrth y llyw erbyn hyn ac nid yw enwau Edward Cropper, ei wraig Margaret, a’i lysfab Joseph Macaulay, ar y gofeb wenithfaen goch gerllaw, bellach yn ddim mwy nag atgof pell yn ôl.
Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch, Maenclochog, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7QU
Ebost: admin@cymdeithastafarnsinc.cymru
Ffon: 01437 532214