Rheolau newyddl Covid 19I'n holl gwsmeriaid Yn unol a rheolau newydd y Llywodraeth ynglyn a Covid 19, o ddydd Llun 14eg Medi ymlaen bydd rhaid unrhwy un sy'n dod i mewn i Dafarn Sinc wisgo masg wyneb. Yr ydym yn siwr y byddwch yn deall pwysigrwydd glynu wrth y rheol hon a'r diogelwch ychwanegol y bydd hyn yn ei ddarparu o ran diogelu eich hunain a'n staff. Diolchwn o flaen llaw am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad ac edrychwn ymlaen i'ch gweld yn Nhafarn Sinc.
|
Neges i GyfranddalwyrI gael gwybodaeth pellach am y CCB ar Fai'r 18 yn Neuadd Maenclochog cysylltwch â info@tafarnsinc.cymru i gael eich cyfrinair ar gyfer mynediad i'r adran berthnasol ar y wefan hon - Aelodau. Dylid derbyn enwebiadau ar gyfer bod yn aelodau o'r Bwrdd Rheoli erbyn Ebrill 18. Cyfranddaliadau yn dal ar gael am £200 yr un. |
Wel, Blwyddyn Newydd Dda hwyr i chi gyd!Does gyda ni ddim achlysuron penodol wedi’u trefnu hyd yma ond mae cynlluniau cyffrous ar y gweill. Cofiwch, fe gafwyd cwmni dros hanner cant o aelodau Lovechickens RFC yn ddiweddar. Roedd y Carwyr Cywennod, o dan arweiniad y chwedlonol Doug Hansen o Texas, wrth eu bodd. Rydym ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda PLANED sy’n gweinyddu’r prosiect Cymdogaeth Gwerin yn ardal y Preselau dros y tair blynedd nesaf. Gan ein bod wastad wedi brolio fod Tafarn Sinc yn fwy na dim ond tafarn ac yn gwasanaethu bro Preseli gyfan mae’n siwr y bydd yna brosiectau penodol y medrwn eu rhannu. Cadwch lygad ar y dudalen facebook. Daw newyddion yn y man. |
NadoligDo, cafwyd noson i’w chofio yng nghwmni’r digrifwr Cennydd o Bontsian. Digon o ddeunydd gwreiddiol gan y standyp. Gobeitho neiff e gadw mas o drwbwl nawr hyd yn oed os yw e’n cael hwyl fel march y plwy!
Ac fe ddaw’r flwyddyn newydd a’r Hen Galan pan fydd y Fari Lwyd yn galw heibio ar nos Sul, Ionawr 13. Dewch heibio i’w chyfarch. |
CennyddCymrwch bip ar y dudalen ffesbwc i weld y gystadleuaeth i ennill pryd o fwyd gwerth £40 i ddau a chopi o grynoddisg Gwŷr y Stac. Daw’r gystadleuaeth i ben ar Dachwedd 19. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. |
Cân i ddathlu ar grynoddisgMae cyhoeddi cryno ddisg i gofnodi blwyddyn o fasnachu gan dafarn cymunedol yng ngogledd Sir Benfro yn ganlyniad cysylltiad annisgwyl rhwng Tafarn Sinc yng nghanol y Preselau ac aelodau o grŵp gwerin o Gwmafan. Yn answyddogol mae’r Preselau a Chwmafan wedi’u gefeillio. Flwyddyn yn ôl daeth y dafarn eiconig yn eiddo i’r gymuned trwy wahodd pobl o bob rhan o’r byd i brynu cyfranddaliadau. Fel rhan o’r rhaglen adloniant a drefnwyd gwahoddwyd Gŵyr y Stac i ddiddanu un nos Sadwrn. Creodd y profiad gymaint o argraff ar y tri aelod nes iddyn nhw fynd ati i gyfansoddi cân bwrpasol i gofnodi’r pen-blwydd cyntaf. “Clywsom ni’r hanes am y dafarn ar y radio. Fe brynon ni gyfranddaliade ein hunen. Ar ôl mwynhau’r awyrgylch pan fuon ni’n perfformio yno daeth yr ysfa i gyfansoddi cân i gydnabod menter y trigolion lleol”, meddai Ken Thomas, un o sylfaenwyr y grŵp. Ond doedd hynny ddim yn ddigon. Aed ati i recordio’r gân a’i mireinio. A nawr mae ar gael ar ffurf cryno ddisg ac mae fideo ar y gweill i gyd-fynd â’r gân hefyd. Penderfynwyd mai dim ond nifer cyfyngedig o’r CDs byddai’n cael eu cynhyrchu. Bydd y rhain ar gael mewn waled wedi’i chynllunio gan Rhys Jones o Orielodli. Bydd ar werth yn y dafarn am £2 a hynny ynddo’i hun yn rheswm arall dros alw heibio i weld y blawd llif, yr ystlyse mochyn a’r geriach amaethyddol y mae cwsmeriaid eisoes yn heidio i’w gweld. Ma’ pryd o fwyd blasus i’w gael hefyd yn ogystal â chwrw da a chlonc wrth gwrs. Aelodau Gŵyr y Stac yw Tim Rees, Jayne Williams a Ken Thomas. Mae’n fwriad ganddyn nhw alw heibio eto i ganu’r hen alawon ynghyd â’r gân gyfoes sy’n profi’n dipyn o ffefryn eisoes. Gellir lawrlwytho’r gân oddi ar y gwefannau cyfarwydd ar ôl 14 Tachwedd. Llun: Y gwaith celf ar y waled. Enw’r gân wrth gwrs yw ‘Tafarn Sinc’ |
Pen-blwydd cyntaf o berchnogaeth cymunedolWrth i ni wynebu ein pen-blwydd cyntaf o berchnogaeth cymunedol mae Cymdeithas Tafarn Sinc yn falch o gael ein cynnwys ar gyfer Gwobrau Perchnogaeth Cymunedol Gwledig. Rydym wedi ein henwebu yng nghategori 'Stori Gymunedol y Flwyddyn'. Mae'r wobr yn cael ei noddi eleni gan Retail Mutual yn enw Ymddiriedolaeth Plunkett. https://www.facebook.com/retailmutual/ |
Parhau â'r ymgyrch gyfranddaliadauFe fu ein cynnig dechreuol o gyfranddaliadau yn llwyddiannus. Codwyd y cyfalaf angenrheidiol i brynu Tafarn Sinc. Ond ni lwyddwyd i gyrraedd y nod o werthu 1876 o gyfranddaliadau - rhif a ddewiswyd i ddynodi’r flwyddyn y cafodd y Precelly Hotel, fel roedd wedi’i enwi ar y pryd, ei godi. Fe gydiodd yr ymgyrch yn y dychymyg. Fe lwyddwyd i ddenu buddsoddwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn parhau â'r ymgyrch gyfranddaliadau tan 2020 er mwyn ehangu’r berchnogaeth gymunedol a darparu cyfalaf pellach ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r prosiect cymunedol unigryw hwn. Gweler y penawdau. |
Gwobr gan y Gymdeithas GydweithredolTipyn o anrhydedd ar ôl dim ond rhyw bedwar mis o fasnachu oedd cael ein henwebu ar gyfer gwobr gan y Gymdeithas Gydweithredol yng nghategori Torri Trwodd. Dewiswyd yr enillydd ar sail pleidlesio ar-lein. Er na chipiwyd y wobr roedd yr enwebiad ei hun yn bluen yn ein hat. |
Gwêl Tafarn Sinc ei hun fel canolfan ddiwylliannol ar gyfer bro gyfan yn ymestyn y tu hwnt i gyffiniau Rhos-y-bwlch a Maenclochog gan gwmpasu’r pentrefi ar ddwy ochr y mynydd yn cynnwys Brynberian ac Eglwyswrw, Crymych a Phentregalar, a llu o bentrefi eraill – Bro Preseli.
I’r perwyl hwnnw rhoddir llwyfan i dalentau lleol yn ogystal ag artistiaid sy’n adnabyddus yn genedlaethol.
Ar achlysur yr Hen Galan ar Ionawr 13 gwahoddwyd y grŵp dawns traddodiadol Heb Enw i gyflwyno’r Fari Lwyd i’n plith. Gobeithio y daw ei hymweliad yn ddigwyddiad blynyddol.
Yr hyn sy’n rhyfedd yw’r nifer o artistiaid sydd wedi cysylltu yn gofyn am gael perfformio ar y llawr blawd llif cymaint yw eu sêl dros yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yn enw’r gymuned.
Daeth y canwr gwerin tanllyd, Gwilym Bowen Rhys, yr holl ffordd o Wynedd i’n diddanu. Daeth Gwŷr y Stac o Gwmafan tra bo Alan Burke, y cerddor Gwyddelig, wedi galw heibio i gynnal noson fyrfyfyr.
O ran y doniau lleol cafwyd noson yng nghwmni’r digrifwr a’r canwr gwlad, Clive Edwards a disgwylir perfformiadau pellach gan y rhoces leol, Nia Lloyd, sydd yn un o’r gweinyddesau ac yn byw o fewn llai na milltir i’r dafarn. Ar sail ei pherfformiad cyntaf cafodd ei fersiwn o ‘Haleliwia’ (Leonard Cohen) ymateb syfrdanol ar y dudalen ffesbwc.
A rhaid peidio ag anghofio am y Welsh Whisperer a wnaeth yn siŵr fod ‘pawb yn bêlo nawr’. Na chwaith Alejandro Jones o Batagonia.
Cawsom ein hanrhydeddu gan bresenoldeb neb llai na Dafydd Iwan ar achlysur dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Dychwelodd Tecwyn Ifan i’r fro gan ganu rhai o’r caneuon hynny a ysbrydolwyd gan drigolion lleol megis Twm Carnabwth, Dil Hafod-ddu, Wil Cannan ac wrth gwrs Waldo Williams.
Priodol ar achlysuron perfformiadau Dafydd a Tecwyn oedd gweld llun jogel o faint o Waldo yn sefyll y tu ôl iddyn nhw gan eu bod yn eneidiau cytûn.
Mae Grŵp Treftadaeth wedi’i ffurfio hefyd sydd wedi bod yn cwrdd yn y dafarn ac allan yn y maes yn bwrw golwg ar olion hynafol yr ardal.
Y bwriad yw datblygu ac adeiladu rhaglen amrywiol o achlysuron fydd yn sefydlu Tafarn Sinc fel cyrchfan berfformio o bwys.
I'r perwyl hwnnw hefyd cafwyd cwmni'r guru diwylliannol, Euros Lewis, i'n gosod ar ben ein ffordd o ran sut i fynd ati i adlewyrchu diwylliant naturiol y fro, wrth iddo esbonio bod 'diwylliant' yn wahanol i 'culture'.
Ni threfnwyd achlysuron rheolaidd yn ddiweddar gan ein bod yng nghanol cyfnod o ail-strwythuro.
Er hynny, ar fyr rybudd, gwahoddwyd cantores o’r enw Ceulyn o Ynys Býr i ddiddori ar nos Sadwrn, Ebrill 20. Yn wir, profodd mor boblogaidd nes iddi ddychwelyd ar nos Lun Gŵyl y Banc hefyd. Gweler yr ymateb ar dudalen ffesbwc. Gwrandewch arni’n canu ‘Myfanwy’.
Cyn hynny ar bnawn Mercher, Ebrill 10, trefnwyd Taith Gerdded ar y cyd â phrosiect Ein Cymdogaeth Werin o amgylch chwareli Rhos-y-bwlch. Y tywysydd oedd yr hanesydd lleol, Peter Claughton.
Fel rhan o’r un gyfres o ddigwyddiadau Naws am Le trefnir taith lenyddol ar ddydd Mercher, Mai 22. Bydd Taith Llenyddiaeth a Thirlun yn cychwyn o Dafarn Sinc am 10 yb a bydd y bws mini’n dychwelyd yno ganol y p’nawn. Mae’r daith am ddim ond rhaid cysylltu i gadw lle – 01834 860965 sophiej@planed.org.uk Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma
Hefin Wyn fydd tywysydd y daith ddwyieithog yn cyflwyno Waldo, Llwyd, Tomi Evans, Niclas y Glais a Jams Dafi.
Trefnir gweithgareddau tebyg eraill yn y dyfodol agos gan gynnwys Slam Barddoniaeth yn Tafarn Sinc o dan ofal Karen Owen.
O edrych i’r pellter gellir datgelu nawr y bydd y Welsh Whisperer, un o’n cyfranddalwyr, yn dychwelyd i berfformio yn Nhafarn Sinc ar Chwefor 8 2020. Mae’r Dyn o Gwmfelin Mynach yn fachan bishi iawn. Lot o waith belo ‘da fe! Rhowch nodyn yn y dyddiadur.
Annogir mynychwyr i gadw ford er mwyn bwyta pryd o fwyd cyn y sioeau.
Mae amserlen gyffrous ac amrywiol o achlysuron yn cael ei pharatoi.
Dyma ddanteithion bwydlen yr haf.
Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch, Maenclochog, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7QU
Ebost: admin@cymdeithastafarnsinc.cymru
Ffon: 01437 532214