Achlysuron
Mae Tafarn Sinc yn falch o hyrwyddo amrywiaeth eang o weithgareddau
diwylliannol. Rydym yn cefnogi llawer o artistiaid lleol mewn
amrywiol
gelfyddydau o gerddoriaeth i farddoniaeth. Fel rhan o'n hymrwymiad i'r iaith
Gymraeg, mae'r rhan fwyaf o'n perfformwyr yn perfformio'n bennaf yn y Gymraeg
(yn aml mae peth cynnwys yn Saesneg hefyd)/
Mae ymweliad blynyddol y Mari Lwyd i "weld i mewn" Blwyddyn Newydd Cwm Gwaun ar Ionawr 13 wedi dod yn chwedlonol!
Yn ogystal â'r digwyddiadau hyn, mae gennym ni Chwaraeon Bar fel Dartiau, Bingo, Cwisiau a Phŵl. Mae sgyrsiau am hanes a diwylliant Cymru yn boblogaidd yn ystod y Gaeaf.
Gweler ein Tudalen Facebook am wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod

