Adeiladwyd Tafarn Sinc ar gyfer twristiaid i Rosebush yn 1876. Y dyddiau hyn, mae’r “Dafarn Sinc” wedi dod yn hoff le yfed i bobl lleol a thwristiaid.
Mae pawb wrth eu bodd a hynodrwydd hen le: yr arteffactau, ffotograffau, posteri ar bric-a-brac hanesyddol.
Heddiw rydym yn gweini amrywiaeth o ddiodydd alcoholig (gan gynnwys cwrw casgen wedi’i fragu’n lleol) a diodydd di-alcohol a diodydd meddal, a bwyd tafarn blasus ac iach.
Mae prydau’n cael eu coginio’n ffres yn ein cegin gan ddefnyddio llawer o gynnyrch a chynhwysion o’r ardal leol. Mae dewisiadau llysieuol a fegan ar gael
(gweler y bwydlenni isod). Gellir archebu’r ‘Arbennigion’ o’r byrddau sialc yn y Dafarn.
Yn ystod y Gaeaf rydym yn gweini Ciniawau Sul blasus
Yr Haf, rydym ar agor bob dydd o 12 hanner dydd tan 10.30 yr hwyr.
Gweinir bwyd o 12 hanner dydd tan 8.30 yr hwyr.
Cliciwch ar y llun isod i weld ein bwydlen.
Lleolir Tafarn Sinc yng nghalon y Preselau oddi fewn i ysblander Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyma’r dafarn drwyddedig uchaf yn Sir Benfro i’w ganfod yng nghesail Foel Cwm Cerwyn ym mhentref bychan Rosebush.
Dewch o Hyd i Ni Yma:Mae’n adnabyddus ymhell ag agos am fod seiniau’r ‘wês, wês’ i’w chlywed o fewn ei furiau sinc a ’r awyrgylch yn diferu o naws slawer dydd am fod hen offer amaethyddol yn gymysg â chrysau gwlanen ac ystlysau mochyn go iawn yn hongian o’r nenfydau. Heb anghofio’r pinswrn sbaddu a'r blawd llif ar y lloriau.
Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch, Maenclochog, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7QU
Ebost: admin@cymdeithastafarnsinc.cymru
Ffon: 01437 532214